Y Pwyllgor Deisebau |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 4 Chwefror 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:03 - 10:31 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
William Powell (Cadeirydd) Russell George Bethan Jenkins Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Matthew Richards |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
2 Deisebau newydd
2.1P-04-532 Gwella Gwasanaethau Niwrogyhyrol Arbenigol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a’r
· holl Fyrddau Iechyd Lleol
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
2.2P-04-533 Cynllunio Amgylcheddol ar gyfer Safleoedd Tyrbinau Gwynt ar Raddfa Fach
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio i ofyn ei farn am y ddeiseb.
2.3P-04-534 Ymgyrch i ddiogelu YSBYTY ABERTEIFI
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at:
· y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a
· Bwrdd Iechyd Hywel Dda
i ofyn eu barn am y ddeiseb.
Cytunodd Joyce Watson AC i roi copi i'r Pwyllgor o ohebiaeth ddiweddar a dderbyniodd yn rhinwedd ei swydd fel Aelod Cynulliad, sy'n ymwneud â'r materion yn y ddeiseb.
3 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
3.1P-04-367 Achub ein Gwasanaethau Ysbyty
3.2P-04-394 Achub ein Gwasanaethau - Ysbyty Tywysog Philip
3.3P-04-430 Y bwriad i gau Uned Mân Anafiadau Dinbych-y-pysgod
3.4P-04-431 Preswylwyr Sir Benfro yn erbyn Toriadau i Wasanaethau Iechyd
3.5P-04-455 Achub adran achosion brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i:
3.6P-04-502 Canolfan Lles ar gyfer Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebwyr am lythyr y Gweinidog.
3.7P-04-385 Deiseb ar ryddhau balŵns a lanternau
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
3.8P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· gadw golwg tan yr adolygiad o'r rheoliadau presennol; ac
· anfon copïau at y Gweinidog o'r holl ymatebion a ddaeth i law gan y deisebydd a'r rhanddeiliaid yn ystod y drafodaeth ar y ddeiseb i helpu gyda'r adolygiad.
3.9P-03-263 Rhestru Parc y Strade
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb a chytunodd i:
· gau'r ddeiseb yn sgîl datganiad y Gweinidog nad oes llawer rhagor y gellir ei wneud, ac
· ysgrifennu at Gyngor Sir Caerfyrddin yn mynegi pryder ynghylch ei ymateb i'r Pwyllgor.
3.10 P-04-509 Achub Canolfan Tennis Genedlaethol Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am farn Cyngor Dinas Caerdydd am y cynigion a'r model cyfranogiad a amlinellwyd gan Tennis Cymru, ac i ofyn a fyddai’n barod i ystyried gweithio gyda Tennis Cymru yn y modd a awgrymir yn y llythyr at y Pwyllgor. Nododd Aelodau'r Pwyllgor hefyd y byddent, pe byddai hynny'n angenrheidiol, ar gael ar gyfer cyfarfod gyda Chanolfan Tennis Abertawe.
3.11 P-04-365 Diogelu adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ar y ddeiseb. Er bod Pwyllgor Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i fod i ystyried rhestru'r safle yn lleol ar 7 Chwefror, cafwyd ar ddeall bod hyn bellach wedi'i ohirio am fis. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa.
3.12 P-04-397 Cyflog Byw
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y cynnydd ar ôl i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu ystyried y mater ym mis Mawrth.
3.13 P-04-446 Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros i glywed barn y deisebwyr ac aros am gadarnhad gan y Gweinidog o'r camau y mae'n bwriadu eu cymryd.
3.14 P-04-475 Yn eisiau – Bysiau i Feirionnydd
3.15 P-04-513 Achub gwasanaeth bws X94 Wrecsam/Abermo
3.16 P-04-515 Darparu rhagor o arian ar gyfer Gwasanaethau Bysiau Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y deisebau a chytunodd i gynnal ‘ymchwiliad’ byr ar y mater hwn.
3.17 P-04-498 Addysgu Cymru
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb gan na chafwyd ymateb gan y deisebydd.
3.18 P-04-499 Rhoi Hwb i Gwricwlwm yr Iaith Gymraeg
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
· ofyn i'r Gweinidog am ei ymateb i sylwadau pellach y deisebydd; ac
· anfon copi at y deisebydd o'r trawsgrifiad o'r ddadl ddiweddar yn y Cyfarfod Llawn a chopi o ddatganiad ysgrifenedig y Prif Weinidog ar 3 Chwefror.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 5
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
5 Trafod y flaenraglen waith
Trafododd yr Aelodau Flaenraglen Waith y Pwyllgor.